Geiriad y ddeiseb:
Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r tri Pharth Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn arfaethedig yn sir Benfro yn cael eu dynodi’n barthau lle na chaniateir pysgota i ddiwydiant pysgota y glannau.
Credaf fod y penderfyniad anghywir wedi’i wneud wrth gynllunio i ddynodi statws Parth Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn yn unig, gan wahardd pob gweithgaredd alldynnol; ymddengys fod y penderfyniad hwn yn un gwleidyddol yn hytrach na’n un gwyddonol, sy’n rhan allweddol o’r broses Parthau Cadwraeth Morol.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Stephen De-Waine
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref 2012
Nifer y llofnodion:. 586